Penwythnos Prysur Aberaeron

Mercryll, Rygbi a Charnifal

gan Mair Jones
C916CADD-03E1-469D-83D0

Ma’r penwythnos yma yn un prysur iawn yn Aberaeron. Dechreuodd y cyfan gyda’r Ŵyl Fecryll Dydd Sadwrn. Roedd y strydoedd yn llawn wrth i’r orymdith gychwyn yn araf o’r harbwr tuag at y Clwb Hwylio i gyfeiliant Band Jazz Adamant a’r merched yn eu galar tu ôl i fygydau yn eu gwisgoedd duon yn crïo’n ddi-stop. Fel arfer ma’r cyfan yn dod i ben gyda llosgi’r macrell ar draeth y de wrth iddi nosi, ond yn anffodus oherwydd y gwaith ar amddiffynfeydd y dre, nid oedd hyn yn bosibl eleni!

Mae’r Ŵyl a sefydlwyd dros bymtheg mlynedd yn ôl yn deillio o draddodiad hynafol i ddynodi diwedd cyfnod pysgota mecryll ym Mae Ceredigion.

Mae Clwb Rygbi yn gyfchan arall dros yn Sadwrn a’r Sul a bydd y Carnifal ar y dydd Llun yn benllanw i’r penwythnos.

Lliwiau’r carnifal eleni yw coch, oren a melyn a bydd y cyfan yn cychwyn am 1.45 gyda’r parêd arferol o gwmpas y dref.

Dewch draw i fwynhau diwrnod heb ei ail yn Aberaeron.