Lluniau a Phlatiau Eisteddfod

Ysgol Gynradd Felinfach

gan Ysgol Gynradd Felinfach

Lluniau a Phlatiau Eisteddfod

Mae Ysgol Gynradd Felinfach ar hyd y blynyddoedd wedi cael tipyn o lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a phob tro roedd yr Ysgol yn derbyn gwobr gyntaf roeddwn yn trefnu bod llun, y fedal a’r tystysgrif yn cael eu gosod gyda’i gilydd mewn ffram ac hefyd yn prynu plat pren er mwyn dathlu’r llwyddiant.

Mae’r lluniau a’r platiau yma’n cael eu harddangos ar waliau’r Ysgol ar hyn o bryd.

Gan y bydd Ysgol Felinfach yn cau ei drysau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 2024 rydym yn awyddus na fydd y lluniau a’r platiau yma yn mynd yn anghof felly rydym am roi cynnig ichi brynu’r lluniau a/neu’r platiau os rydych yn dymuno.

Rydym am ofyn am daliad o £35.00 am lun a £15.00 am blat.

Os rydych yn dymuno gweld y lluniau/platiau mae croeso ichi ddod i’r Ysgol i’w gweld a’u prynu unrhyw adeg rhwng 4.00 a 5.00yh ar Ddydd Llun, Hydref 7fed, Dydd Mawrth, Hydref 8fed neu Ddydd Mercher, Hydref 9fed. Ni ellid prynu o flaen llaw.

Ni fyddwn yn tynnu’r lluniau/platiau oddi ar welydd yr Ysgol tan ddiwedd y tymor ond wedi derbyn eich taliad fe fyddwn yn eu cadw ichi ac fe fyddwn yn cysylltu gyda chi cyn Rhagfyr 20fed i drefnu amser cyfleus ichi ddod i’w casglu o’r Ysgol.

Fe fydd yr arian fyddwn yn ei gasglu drwy werthu’r lluniau/platiau’n mynd tuag at gost mynd a’r plant Ysgol am drip cyn diwedd y tymor.

Os rydych am fwy o fanylion mae croeso ichi gysylltu a mi ar jonesn337@hwbcymru.net neu rhif ffon 01570 470655.

Diolch yn fawr.

Yn gywir

Non McEvoy

Pennaeth

Dweud eich dweud