Llongyfarchiadau mawr i Erin Tomos o Drebedw, ger Henllan, enillydd Tlws Yr Ifanc Eisteddfod Felin-fach eleni.
Mae Erin yn y chweched dosbarth, yn astudio Cymraeg, Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Bro Teifi ar hyn o bryd. Ei gobeithion yw astudio Cymraeg, neu Cymraeg a Newyddiaduraeth yn Aberystwyth neu Caerdydd flwyddyn nesaf. Ymysg ei diddordebau mae hi’n mwynhau canu; yn aelod o Ysgol Gerdd Ceredigion, ac yn cystadlu’n flynyddol ar lwyfan yr Eisteddfod yr Urdd.
Mae ei hymsonau ‘Y Gwehydd’ wedi ei hysbrydoli gan ddiwylliant wlân y teulu a champ y carcharorion Eidalaidd yn Henllan. Dyma detholiad i’w darllen…
Y Gwehydd
Hydref 2023 ~ Ffatri Trebedw
Haul hydrefol diwedd prynhawn sy’n fy nhywys i dros garped o fwsog a dail crin tuag at hen gartref fy nghyndeidiau. Crensian y dail sydd dan fy nhraed a sisiala nant fechan Iago ei chyfrinachau. Ymlwybraf yn chwilfrydig heibio coeden fambŵ fy mhlentyndod a thrwy’r bwa o goed cysurlon uwch fy mhen. Afalau pydredig sy’n gorwedd yn ddifywyd ar y twmpath ‘compost’ heddiw ac ysa gordyfiant y cloddiau am fymryn o haul. Syllaf yn hiraethus ar y tŷ gwag, di gariad. Tŷ a fu unwaith mor groesawgar, yn llawn llawenydd. Trof fy ngolygon at yr adeilad fu unwaith mor dalsyth. Bellach saif y ffatri wlân fel hen wraig gefngrwm, dwy lygad wag ei phenglog yn llawn dagrau a rheini’n gorchuddio’i grudd.
Trof yr allwedd rydlyd yn bwyllog yn nhwll y clo, ac wrth i’r drws wichian yn agored daw’r unig arwydd o fywyd i’m croesawu. Trychfilod ar wasgar ar hyd teiliau coch y cyntedd. Poenus fydd didoli holl greiriau’r teulu ond gwerthu sydd raid. Ton o lwydni lenwa fy ffroenau a llonyddwch a lenwa fy nghalon. Llifa atgofion chwerwfelys am Mamgu yn un fflyd trwy fy enaid. Cofiaf ruthro lawr y lon yn gyffro i gyd a minnau’n blentyn seith mlwydd yn ysu am gwtsh. Curo a churo ar y drws derw tan i’w gwen gyson, gariadus fy ngwahodd i’w nyth. Camu mewn wedyn i’r tŷ oedd yn orlawn o hen, hen gelfi. Bwystfilod tywyll yn syllu arna i o bob twll a chornel. Celfi sydd bellach yn llawn hanesion, atgofion a chyfrinachau. Celfi rwyf heddiw’n eu trysori a’u gwerthfawrogi. Chlyw neb mo’r cloncian byw na’r chwerthin llon yn atseinio drwy’r cartref heddiw. Lle bu unwaith fwrlwm a hapusrwydd, henaint sy’n llenwi unigrwydd y waliau llaith. Dawnsia’r llwch o amgylch yr ystafell flêr a disgleiria pelydrau’r haul drwy’r ffenest dal i gynnig tamaid o gynhesrwydd. Camaf yn eiddil a gofalus o un ystafell i’r llall a sylwaf ar fanion bethau newydd. Dwsinau o fframiau lluniau’n sefyll yn falch ar y cypyrddau blinedig a rhwng y pren a’r arian rhydlyd, eistedda ffotograffau fy nheulu. Dynion yn eu crysau melynwyn a’r menywod yn sefyll yn ymroddgar wrth eu hymyl yn syllu ar lens y camera. Eu llygaid yn treiddio i ddyfnder fy llygaid gwyrddfrown i.
Teimlad dieithr, lletchwith. Cynhesrwydd sydyn yn saethu drwy fer fy esgyrn. Camaf ar y carped patrymog, drwy’r coridor cul gan osgoi’r gwe pry cop a orchuddia pob crac ar y waliau moel. Safaf wrth droed y grisiau a gweld dwsin o garthenni lliwgar, gwlanog yn hongian uwch fy mhen. Môr o liwiau llachar, patrymog yn boddi’r stâr. Cydiaf mewn carthen drom a lapiaf ei glesni amdanaf.
Ymlwybraf tuag at ystafell wely fechan Mamgu ac yn y cornel saif yr hen gwpwrdd dillad. Cwpwrdd nad oedd wiw i ni fentro ei agor pan oeddem yn blant. Teimlaf oerfel y ddolen efydd yn dynn yn fy llaw a chlywaf wich y drws. Pa ddirgelion sy’n llechu’n ddwfn yn ei grombil? Estynnaf am yr hen focs bisgedi a thynnu’r clawr. Beibl. Llinyn paderau. Llun…
I ddarllen gweddill ‘Y Gwehydd’, prynwch gopï o rifyn nesaf Llais Aeron. Bydd detholiad llawn ar gael yno i’w darllen.