Mae cwmni Theatr Troed-y-rhiw, mewn partneriaeth â Bwrlwm Arfor ac CFfI Cymru yn cynnal darlleniad o dair drama wreiddiol yn Theatr Felin-fach, Nos Iau 7fed o Dachwedd am 7yh.
Mae’r dramâu wedi cael eu hysgrifennu gan dri dramodwr – Elain Roberts, Cerys Thomas-Ford a Bethan Jones sydd wedi bod yn brysur yn sgriptio ers dechrau’r haf.
Ac mae’r tri ohonynt wedi bod yn cael eu mentora gan ddramodwyr proffesiynol gan gynnwys y talentog Siân Summers, Branwen Davies, Iola Ynyr a Mared Llywelyn yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae’n argyhoeddi i fod yn noson gwerth chweil, gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc a thalent lleol yn perfformio detholiadau o’r dramâu newydd…
Er mwyn archebu eich tocyn (am ddim), ewch i wefan Theatr Felin-fach. Cynta’ i’r Felin cofiwch!
Bydd y dramâu hefyd yn cael eu cyhoeddi’n llawn yn llyfrgell dramâu Theatr Troed-y-rhiw ym mis Rhagfyr. Byddan nhw ar gael i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol eu perfformio, gyda rhai o’r dramâu hefyd yn cael i’w perfformio’n llawn yn ŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw yng ngwanwyn 2025.