Enillydd Cadair Eisteddfod Felin-fach 2024

Cyfle i ddarllen y gerdd buddugol ‘Golau’ gan Hannah Roberts o Gaerdydd.

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
IMG_4362

Llongyfarchiadau mawr i Hannah Roberts o Dreboeth ger Treforys, enillydd Cadair Eisteddfod Felin-fach eleni.

Ymuno gyda Chwmni Theatr Cymru ym Mangor wnaeth Hannah gyntaf, cyn symud yn ôl i Gaerdydd, i’r Adran Gyflwyno a Darllen Newyddion yn y BBC. Ond mae’n siwr bod Hannah yn fwy adnabyddus i rai fel Mam-gu Iolo a Mam yng-Nghyfraith Siôn White, Pobol y Cwm.

Enillodd Hannah ei chadair gyntaf yn 2011, ac ers hynny mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol, “Cerddi’r Cadeirie Bach” a seiliwyd ar yr un ar hugain o gadeiriau a enillodd yn yr Eisteddfodau bach. Ac yna Nadolig diwethaf, cyhoeddodd ei hail gyfrol, “Blas y Nadolig”.

Mae gan Hannah bellach gasgliad o wyth ar hugain o gadeiriau, gyda’r diweddaraf yn cynnwys Cadair Eisteddfod Felin-fach am ei cherdd, ‘Golau’.

GOLAU

Wrth i’r wawr ddihuno,

wrth iddi godi’i hamrannau,

daw breuddwyd ieuenctid yn bȇr,

mae cusan ymhob cam,

serch yn sŵn yr awel

a chariad yn y cwm.

Ymlwybro mae yn droednoeth yn y gwydd,

i gadw oed ȃ Natur yn ei nwyd,

eu bysedd plygeiniol

yn cyffroi teimladau,

yn dihuno chwant.

Yn nhymestl y gwely gwlithog

disgyna hedyn

i dyfu’n daer.

O’r undod gwyryfol hwn,

bydd genynnau’r geni

yn gawl o gymysgedd,

a gorwel dirgel y dydd

yn gyforiog o’r heddiw newydd.

A’r blaned yn boen,

torra’r dyfroedd

yn wlith ar weirgloddiau,

a bydwraig y bore’n barod.

Daeth yr oriau glȃn o fol amser,

y geni golau,

a brych doe ar borfa.

O esgor fel gwe ysgafn

mae’r bore ifanc yn gwrido ar wely’r môr

fel cwr y llen o linell,

Yna,

ar lwyfan llachar,

chwydda’i cherddoriaeth

ȃ’i chȃn

am doriad y dydd.